Disgwyl mwy o law trwm yn y canolbarth a'r de
- Cyhoeddwyd

Mae rhybudd tywydd mewn grym ddydd Gwener wrth i fwy o law trwm ddisgyn ar rannau o Gymru.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn 'byddwch yn ymwybodol' ar gyfer rhannau o'r canolbarth a'r de.
Bydd mewn grym o 18:00 ac yn para dros y penwythnos.
Yn ôl y rhagolygon, mae disgwyl 10mm - 20mm (0.3 - 0.7 modfedd) o law yn llawer o'r wlad, gyda hyd at 50mm (1.9 modfedd) yn ucheldiroedd Bannau Brycheiniog.
Wedi wythnosau o law trwm, bydd y dŵr yn disgyn ar dir sydd eisoes yn wlyb.
Dywedodd y prif ragolygydd: "Ni fyddai glaw ar y raddfa yma yn cael llawer o effaith fel arfer, ond gan fod y tir yn soeglyd mae mwy o risg o lifogydd arwynebol lleol na'r arfer."
Mae'r rhybudd tywydd mewn grym ar gyfer Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin a Thorfaen.