Gwrthdrawiad Caerdydd: Cyhoeddi enw dyn 33 oed
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 33 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ar Nos Galan.
Bu farw Simon Lewis o Trowbridge, Caerdydd, pan fu ei gar Daihatsu Sirion mewn gwrthdrawiad â Peugeot 307 ar Ffordd Lamby am 17:30 ddydd Iau.
Mae'n gadael gwraig, Amanda, a merch, Summer.
Cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel "dyn poblogaidd, oedd yn byw er mwyn ei deulu".
Ychwanegon nhw: "Roedd o'n dad ac yn ŵr ardderchog, oedd yn edrych ymlaen at enedigaeth ei fab. Bydd yn golled enfawr."
Mae dyn 29 oed oedd yn gyrru'r Peugeot yn parhau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty gydag anafiadau i'w ben.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn apelio am dystion.