BBC Cymru Fyw

Dau wedi'u trywanu ym Mlaenafon ar Nos Galan

Published
image copyrightRyan David
image captionFe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Stryd Ifor ym Mlaenafon

Mae dau berson wedi'u cymryd i'r ysbyty ar ôl iddyn nhw gael eu trywanu yn Nhorfaen ar Nos Galan.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Stryd Ifor ym Mlaenafon am tua 23:10.

Dywedodd Heddlu Gwent bod y ddau berson mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae dyn wedi'i arestio ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad, ac maen nhw'n apelio i unrhyw dystion i ffonio'r llu ar 101.