1,500 o bobl yn nofio yn y môr ar Ddydd Calan
- Cyhoeddwyd

Mae dros 1,500 o nofwyr mewn gwisg ffansi wedi croesawu'r flwyddyn newydd wrth nofio i'r môr yn Sir Benfro.
Nawr yn ei 32ain blynedd, mae'r digwyddiad blynyddol yn Saundersfoot wedi codi cyfanswm o dros £500,000 i elusennau.
Yr anturwraig o Sir Benfro, Tori James oedd yno i ddechrau'r digwyddiad eleni o flaen torf o filoedd.
Roedd yr uchafbwyntiau o ran gwisg ffansi yn cynnwys llong ofod y Millennium Falcon o ffilmiau Star Wars ac Ysgol Saundersfoot fel Minions, o ffilmiau Despicable Me.
Ffynhonnell y llun, Gareth Davies Photography