Gwrthdrawiad Gwynedd: Dyn ag 'anafiadau sylweddol'
- Cyhoeddwyd

Roedd y Vauxhall Meriva yn teithio ar yr A487 ger Garndolbenmaen i gyfeiriad Caernarfon
Mae dyn 36 oed wedi'i gymryd i'r ysbyty gydag "anafiadau sylweddol" yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A487 ger Garndolbenmaen am tua 03:50 Ddydd Calan.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y dyn, oedd mewn car Vauxhall Meriva arian yn teithio i gyfeiriad Caernarfon, wedi ei gymryd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn ambiwlans.
Mae bellach wedi ei drosglwyddo i'r uned drawma yn Stoke.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu.