Pro12: Gleision Caerdydd 29-27 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Fe wnaeth cais hwyr Alex Cuthbert sicrhau buddugoliaeth i'r Gleision yn erbyn Scarlets mewn gêm gystadleuol ar Barc yr Arfau ar Ddydd Calan.
Scarlets aeth ar y blaen gyda cheisiau gan Ken Owens a DTH van der Merwe, cyn i Cory Allen ymateb i'r Gleision.
Fe wnaeth Dan Fish groesi'n gynnar yn yr ail hanner cyn i gais Kristian Deacy roi'r tîm cartref ar y blaen, tra bo Scarlets wedi gweld dau o'u chwaraewyr yn cael eu gyrru i'r gell gosb.
Rhoddodd gais Gareth Davies yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen am gyfnod, ond fe wnaeth sgôr hwyr Cuthbert sicrhau trydedd fuddugoliaeth yn olynol i'r Gweilch yn y Pro12.