Manchester United 2-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Colli o 2-1 wnaeth Abertawe yn erbyn Manchester United ddydd Sadwrn.
Wedi hanner cyntaf di-sgôr, Anthony Martial aeth a'r tîm cartref ar y blaen.
Llwyddodd Gylfi Sigurdsson i ddod â'r Elyrch yn gyfartal ar ol 70 munud, ond tarodd Wayne Rooney yn ôl saith munud yn ddiweddarach a sicrhau buddugoliaeth.
Mae Manchester United yn codi i'r pumed safle, tra bod Abertawe'n aros yn uwch na'r tri isaf yn y tabl.