BBC Cymru Fyw

Williams drwyddo i rownd nesa'r BDO

Published
Mae'r Cymro Jim Williams drwyddo i ail rownd Pencampwriaeth Dartiau'r Byd y BDO.
Yng ngêm agoriadol y bencampwriaeth, llwyddodd Williams o Lanandras ym Mhowys i guro Tony O'Shea o Loegr o dair set i ddim.
Ond mae'r Cymro arall yn y bencampwriaeth allan o'r gystadleuaeth.
Collodd Dean Reynolds o Gaerdydd yn erbyn Glen Durrant o Loegr o dair set i ddim.