Gwrthdrawiad Sir Fynwy: Cyhoeddi enw dyn fu farw
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A449 rhwng Rhaglan a Brynbuga
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn 42 oed fu farw wedi gwrthdrawiad ar yr A449 yn Sir Fynwy fore Sul.
Bu farw Mark Crabtree o Hertfordshire yn y gwrthdrawiad ar lôn ddeheuol y ffordd rhwng cyfnewidfa A40 Rhaglan a chyfnewidfa A472 Brynbuga am tua 09:30.
Doedd dim un cerbyd arall yn rhan o'r ddamwain.