Gwrthdrawiad angheuol: Apêl am wybodaeth
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd y B4302 rhwng Talyllychau a Chrugybar yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rywbryd rhwng 01:30 a 04:45. Cafodd un dyn oedd yn y cerbyd ei ladd.
Doedd dim un cerbyd arall yn rhan o'r ddamwain.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw a welodd y digwyddiad i gysylltu a nhw drwy ffonio 101.