Heddlu'n ymchwilio wedi i car fynd drwy ffenest siop
- Published
image copyrightJoanna Morgan
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ddigwyddiad pan aeth car drwy ffenest siop mewn parc manwerthu yn Cross Hands.
Fe aeth y car Ford Kuga drwy ffenest siop Home Bargains tua 11:00 ddydd Sul.
Chafodd neb ei anafu, ond cafodd menyw oedd yn y siop ar y pryd driniaeth am sioc.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd. Chafodd neb ei arestio.
Mae'r cerbyd bellach wedi ei symud o'r safle.