Gweithwyr Trenau Arriva Cymru ar streic 24 awr

  • Cyhoeddwyd
Streic Arriva Cymru

Mae pob un o wasanaethau Trenau Arriva Cymru wedi eu canslo ddydd Llun wrth i weithwyr fynd ar streic 24 awr.

Undebau ASLEF a'r RMT sy'n cynnal y streic oherwydd anfodlonrwydd am gyflogau ac amodau gwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran ASLEF eu bod wedi dod i gytundeb ar fater cyflogau ond nad ydyn nhw'n fodlon â'r newid i amodau gwaith.

Mae Arriva yn gyfrifol am 1,000 o wasanaethau bob diwrnod, a dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod yn "ddrwg ganddyn nhw am unrhyw anhawsterau y bydd hyn yn ei achosi". Maen nhw'n argymell teithwyr i wneud trefniadau eraill.

'Anrhefn mawr'

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, y byddai'r streic yn achosi "anhrefn mawr" i deithwyr a galwodd ar Lywodareth Cymru i weithio gyda phob ochr er mwyn sicrhau cyn lleied â phosib o drafferthion.

"Gan na fydd gwanasaethau bws yn cael eu cynnig, mae teithwyr yn wynebu brwydr anodd wrth geisio teithio i'w gwaith, ac mae hon yn amlwg yn sefyllfa'n annerbyniol."

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai mater oedd hyn i'r cwmni trenau: "Rydym mewn cysylltiad â Threnau Arriva Cymru ac yn annog datrysiad i'r anghydfod cyn gynted â phosib.

"Yn ystod y trafodaethau gyda'r cwmni, rydym wedi eu hannog i ddarparu gwybodaeth gyfredol i deithwyr ar yr anhawsterau fydd yn eu hwynebu."