Rhybudd o lifogydd posib yn parhau
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i law trwm ddisgyn mewn rhai ardaloedd eto ddydd Llun, wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn "byddwch yn ymwybodol" tan 12:00 ddydd Mawrth.
Y de, y canolbarth a'r gorllewin ddylai weld y glaw gwaethaf, lle mae disgwyl i 10mm ddisgyn o fewn awr.
Mae yna berygl o lifogydd pellach o achos fod y tir mor wlyb.
Mae yna rybudd i Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Powys, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Abertawe, Torfaen, Pen-y-bont, Bro Morgannwg, Caerdydd a Chasnewydd.