Wrecsam: Cynghorwyr i benderfynu ar leoliad swyddfa heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr wedi cael eu hargymell i gymeradwyo cynlluniau i drawsnewid oriel gelf yn gartref newydd ar gyfer gorsaf heddlu canol tref Wrecsam.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud cais i newid defnydd adeilad Oriel Wrecsam sy'n rhan o lyfrgell y dref.
Fe fydd y bloc o swyddfeydd presennol yr heddlu yng nghanol y dref yn cael eu dymchwel yn 2016 gyda chynlluniau i symud i ganolfan newydd yn Llai.
Mae'r oriel, sy'n cael ei rhedeg gan y cyngor, eisoes wedi cael ei hail-leoli dros dro.
Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys estyniad i du blaen hen adeilad yr oriel a newid y defnydd o faes parcio'r llyfrgell ar gyfer maes parcio staff yr heddlu.
Gohiriwyd y penderfyniad ar y cynlluniau ym mis Rhagfyr er mwyn rhoi amser i'r heddlu ystyried lleoliadau eraill ar gyfer wyth o fannau parcio i'r anabl a fyddai'n cael eu colli o ganlyniad i'r newid.
Dywedodd cynllunwyr bod "cyfaddawd derbyniol" wedi ei gyrraedd gyda'r potensial o ddarparu tua chwe o lefydd parcio yn nes at wasanaeth Shopmobility yn Stryd Egerton.
Maen nhw'n argymell rhoi caniatâd gydag amodau gan y pwyllgor cynllunio ac mwy disgwyl penderfyniad ffurfiol i gael ei wneud mewn cyfarfod brynhawn Llun.
Os caiff ei gymeradwyo byddai'r oriel yn symud i ganolfan celfyddydau a diwylliant newydd arfaethedig, sydd wedi ei gynllunio ar gyfer y dref.
Mae'r Cynghorydd Alun Jenkins eisoes wedi mynegi amheuon y byddai'r oriel yn "colli allan" nes bod y ganolfan newydd yn cael ei chreu.
Mae astudiaeth yn cael ei gynnal i ystyried y dyluniad ar gyfer y ganolfan ddiwylliannol newydd.