Toriadau i wasanaethau dysgu oedolion Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
gareth
Disgrifiad o’r llun,
Y Cynghorydd Gareth Jones sy'n gyfrifol am addysg o fewn y sir

Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Caerfyrddin wedi pleidleisio i fwrw ymlaen â thoriadau i wasanaethau dysgu oedolion yn y sir.

Mewn adroddiad gafodd ei drafod gan gynghorwyr fore Llun, nodwyd bod y ddarpariaeth wedi derbyn £289,000 yn llai o arian yn ei gyllideb gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y Gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei "flaenoriaethu" o hyn ymlaen.

Bwriad hynny yw darparu addysg sylfaenol i oedolion ac i ddysgu rhifedd, llythrennedd, gwasanaethau digidol a Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.

Mae undeb Unison wedi beirniadu penderfyniad y cyngor i ymgynghori ar ddyfodol y gwasanaeth dros gyfnod y Nadolig.

Colli gwasanaethau

Ni fydd gwersi dysgu oedolion eraill yn y gymuned fel y celfyddydau, ieithoedd a chyfrifiadureg yn cael ei ddarparu ar ôl 31 Mawrth eleni chwaith.

Bydd costau o gynnal a chadw Canolfan Cennen yn Rhydaman a Chanolfan Cymunedol Addysg Felinfoel yn dod i ben ar yr un dyddiad.

Mae Cyngor Tref Cwmaman hefyd am gymryd y cyfrifoldeb dros Ganolfan Gymuned Glanaman.

Yn ôl ffigyrau Cyngor Caerfyrddin mae 72% o ddysgwyr oedolion y sir yn ferched. Mae 43% dros 60 oed, gyda 85% ohonyn nhw'n ddi-waith.

"Dyw'r gwasanaeth ddim yn rhywbeth statudol wrth gwrs, does dim gorfodaeth arnom ni i weithredu o gwbl," meddai'r Cynghorydd Gareth Jones, sydd â chyfrifoldeb dros wasanaethau oedolion.

Mae 46 yn gweithio i'r gwasanaeth a doedd y Cynghorydd Jones ddim yn gwrthod y syniad o ddiswyddiadau.