Carwyn Jones yn ymweld â Thal-y-bont unwaith eto
- Cyhoeddwyd

Mae Carwyn Jones wedi ymweld â Thal-y-bont ger Bangor yn dilyn y llifogydd diweddar.
Yn ystod ei ymweliad, fe amddiffynnodd y prif weinidog fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amddiffynfeydd llifogydd.
Dywedodd fod y llywodraeth eisioes wedi addo £2.3m ar gyfer diogelu cymunedau rhag llifogydd.
Ond mae un o drigolion Tal-y-bont yn dweud fod addewidion y llywodraeth i ariannu amddiffynfeydd ger y pentref yn "hwyr."
Prynu tir
Mi ddywedodd Mr Jones nad oedd 'na broblem gyda chyllido cynllun atal llifogydd yn ardal Tal-y-bont.
Yr hyn sy'n rwystr i'r cynllun, meddai, yw bod rhaid "siarad gyda perchnogion tir, er mwyn prynu'r tir."
Ychwanegodd: "Os yw pobl yn fodlon gwerthu tir, byddai'n gloiach na sa ni'n gorfod prynu tir yn orfodol."
Wrth ymweld â'r gogledd yr wythnos ddiwetha', fe aeth Mr Jones i weld rhan o'r A55 fu dan ddŵr ger Tal-y-bont.
Ond fe gafodd trigolion y pentre eu siomi pan na gawson nhw gyfle i'w gyfarfod i drafod y sefyllfa ddiweddar.
Ar y pryd, fe ddywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod "dryswch" wedi bod ynghylch ei ymweliad.
Ar raglen Dylan Jones BBC Radio Cymru fore Mawrth, fe ddywedodd Mr Jones nad oedd o'n gwybod fod pentrefwyr yn disgwyl ei gyfarfod.
"Pe byddwn yn gwybod bod hwnna wedi ei drefnu byddwn wedi bod yna," meddai.
"Cyngor Gwynedd oedd wedi trefnu'r rhan hynny o'r daith - ond mae'n anodd, roedd pethau wedi eu trefnu ar y funud ola'. Fe drïais fynd yn ôl ond doedd e ddim yn bosib."
Carwyn Jones yn siarad ar Raglen Dylan Jones
Hefyd, bu awgrym bod Mr Jones wedi drysu rhwng lleoliad Tal-y-bont ger Bangor a'r un yn Nyffryn Conwy.
Ond dywedodd y prif weinidog ei fod yn ymwybodol o'r ddau bentref gwahanol ac nad swyddogion Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y trefniadau.