Streic reilffordd: Trafodaethau newydd
- Cyhoeddwyd

Mae trafodaethau wedi bod rhwng Trenau Arriva Cymru a'r undebau ddydd Mawrth, ddiwrnod wedi streic 24 awr gweithwyr rheilffordd.
Cafodd pob gwasanaeth sy'n cael ei redeg gan y cwmni eu canslo ddydd Llun, oherwydd anghydfod gydag undebau ASLEF a'r RMT.
Mae'r undebau'n anhapus gyda newidiadau i amodau gwaith.
Ond bydd y ddwy ochr yn cynnal trafodaethau yng Nghaerdydd er mwyn ceisio datrys yr anghydfod.
Yn y cyfamser, mae Trenau Arriva Cymru'n cynghori teithwyr i wirio'u trefniadau cyn teithio y bore 'ma.