Mis Rhagfyr y 'gwlypaf ers i gofnodion ddechrau'
- Cyhoeddwyd

Mis Rhagfyr oedd y gwlypaf a'r cynhesaf yn y Deyrnas Gyfun ers 1910 ac ers i gofnodion ddechrau, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Bu mwy o law ym mis olaf 2015 yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall ym Mhrydain, yn ôl ffigyrau.
Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy oedd y siroedd gwlypaf yng Nghymru,
Dangosodd ystadegau ar gyfer mis Rhagfyr fod bron 36cm o law (359.1mm) (14.138 modfedd) wedi disgyn, 271% o'r ffigwr ar gyfartaledd gafodd ei gofnodi yng Nghymru rhwng 1981 a 2010.
Stopio gweithio
Bu dros 1 metr (1016mm) o law yng Nghapel Curig yng Nghonwy erbyn 28 Rhagfyr, yn ôl offer oedd yn mesur y lefel.
Ond fe ddywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd fod yr offer wedi stopio gweithio wedi hynny ac felly doedd dim posib gwybod faint o law ddisgynnodd yn nhridiau ola'r mis.
Y record flaenorol ar gyfer mis Rhagfyr oedd 612.8mm.
Roedd y tymheredd ar gyfartaledd yng Nghymru yn 9.1C, 4.6C yn uwch na'r arfer ar gyfer mis Rhagfyr.