Penodi arweinydd newydd National Theatre Wales
- Cyhoeddwyd

Kully Thiarai fydd Prif Weithredwraig a chyfarwyddwraig artistig newydd National Theatre Wales.
Mae'n olynu John McGrath sydd yn gadael y cwmni i fod yn gyfrifol am Wŷl Ryngwladol Manceinion.
Hi oedd cyfarwyddwr artistig Cast, sef adeilad celfyddydol yn Doncaster gafodd ei agor yn 2013.
Dros gyfnod o bron i 30 mlynedd mae wedi bod yn gyfrifol am arwain nifer o theatrau a chynhyrchiadau sydd wedi eu llwyfannu yng Nghymru, ar draws Prydain ac yn rhyngwladol.
Ei bwriad, meddai, yw datblygu ar y gwaith sydd wedi digwydd dan arweiniad John McGrath.
"Dw i'n bwriadu adeiladu ar ei etifeddiaeth trwy sicrhau bod National Theatre Wales yn parhau i fod yn wreiddiol, radical a pherthnasol.
"Mae nifer o bobl a sefydliadau wedi cyfrannu yn wych i wneud y cwmni yn un llwyddiannus yn genedlaethol a rhyngwladol a dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i gyd."
Mae ei phenodiad i'r rôl yn golygu bod nifer o theatrau yng Nghymru rwan yn cael eu harwain gan fenywod yn cynnwys Pontio, Sherman Cymru a Theatr Clwyd Cymru.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:
"Rwyf yn croesawu penodiad Kully Thiarai fel cyfarwyddwr artistig newydd National Theatre Wales. Mae'n wych i weld person mor ddeinamig ag un sydd yn ennyn cymaint o barch yn gweithio yn y swydd hon.
"Rwyf am weld mwy o bobl yn cymryd rhan mewn ac yn mwynhau'r celfyddydau yng Nghymru ac rwyf felly wedi fy nghyffroi o wybod am brofiad Kully wrth ddatblygu'r celfyddydau yn Doncaster."