Cwmni pobi'n addo 100 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni pobi wedi gwneud cais cynllunio i adeiladu safle enfawr yn Wrecsam, gan greu 100 o swyddi newydd.
Os yw cynghorwyr yn cymeradwyo cais Village Bakery, mae'r cwmni wedi dweud y bydd yn diogelu 400 o swyddi presennol.
Mae'r cais ar gyfer codi safle 215,000 o droedfeddi sgwâr - maint tri chae pêl-droed - ger eu dau bopty presennol ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam.
Dywedodd yr AS lleol, Lesley Griffiths: "Mae'r cynlluniau'n drawiadol ac mae'r ffaith y byddan nhw'n creu 100 o swyddi yn newyddion gwych i'r economi leol.
"Er bod y cwmni wedi ei leoli yn Wrecsam, mae'r brand yn enwog drwy Gymru a thu hwnt."
Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli Village Bakery, Robin Jones, mai'r safle fydd un o'r mwyaf o'i fath yn y DU.
"Os ydyn ni'n cael caniatâd cynllunio, byddwn yn dechrau adeiladu'r safle'r flwyddyn nesaf."