Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Crugybar
- Cyhoeddwyd

Ffordd y B4302 rhwng Talyllychau a Chrugybar yn Sir Caerfyrddin
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd Wyn Lloyd, 54, yn dod o Grugybar ger Llandeilo.
Bu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar y B4302 rhwng Talyllychau a Chrugybar rhwng 01:30 a 04:45 fore 2 Ionawr.
Doedd dim cerbyd arall yn rhan o'r ddamwain.
Mae Heddlu Dyfed-Powys gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.