San Steffan: Trafod ariannu S4C
- Cyhoeddwyd

Cafodd S4C ei sefydlu yn 1982
Bydd trafodaeth yn San Steffan nos Fawrth am sut y dylai sianel S4C gael ei hariannu yn y dyfodol.
Mi fydd grant Llywodraeth y DU i'r darlledwr yn disgyn o £6.7m i £5m erbyn 2020 yn sgil adolygiad gwariant fis Tachwedd.
Bellach mae'r rhan fwyaf o gyllideb S4C yn dod o ffi'r drwydded.
AS Ceidwadol Dwyrain Caerfyrddin a De Penfro, Simon Hart, fydd yn arwain y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fis Rhagfyr fe ddywedodd y Gweinidog Darlledu, Ed Vaizey, fod trefniant ariannol S4C yn "eithriadol o hael" a bod gan y sianel "incwm wedi ei warantu o £90m y flwyddyn."