Dau yn y ddalfa ar gyhuddiad o herwgipio
- Published
Mae dau wedi bod gerbron Llys Ynadon Llandudno ar gyhuddiad o herwgipio a charcharu dyn yn anghyfreithlon mewn car yn Llanrwst.
Hefyd cafodd Colin Lyness, 29 oed o Fae Colwyn, a Christopher Stonehouse, 32 oed o Landudno, eu cyhuddo o ymosod, achosi niwed corfforol, a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd Colin Lyness ei gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant.
Bydd y ddau yn y ddalfa tan 8 Chwefror cyn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon.