Tân ysgol Cwmbrân: Arestio dau arall
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson arall wedi eu harestio yn dilyn tân mewn ysgol gynradd yng Nghwmbrân ar Ddydd Calan.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ysgol Coed Efa yn oriau man y bore, a bu 10 o griwiau tân yn brwydro i ddiffodd y fflamau.
Yn ogystal â'r pedwar gafodd eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth ar 1 Ionawr, dywedodd Heddlu Gwent bod dau ddyn arall wedi eu harestio ar amheuaeth o osod tân bwriadol.
Mae'r dynion, 18 a 21 oed, hefyd wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Fe gymerodd hi dair awr i ddod â'r fflamau dan reolaeth ac roedd 55 o ddiffoddwyr ar y safle pan oedd y tân ar ei waethaf.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2016