Arestio dyn wedi marwolaeth tad a babi
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei arestio wedi marwolaeth dyn a'i fabi newydd-anedig ar ôl gwrthdrawiad yng Nghaerdydd Nos Galan.
Bu farw Simon Lewis, 33 oed o Trowbridge, wedi'r gwrthdrawiad rhwng dau gar ar Ffordd Lamby.
Roedd gwraig feichiog Mr Lewis, Amanda, a'i ferch dair oed, Summer, yn y car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
O achos y ddamwain cafodd y babi ei eni dri mis yn fuan fore dydd Sul ond bu farw'r bachgen bach yn hwyrach y diwrnod hwnnw.
Ddydd Mawrth cafodd dyn 29 oed, oedd yn gyrru Peugeot glas fu'n rhan o'r gwrthdrawiad, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, cymryd cerbyd heb ganiatâd, gyrru tra oedd wedi ei wahardd, a gyrru heb yswiriant.
Mae'r dyn yn parhau i gael triniaeth am anafiadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Dylai tystion ffonio'r heddlu ar 101.