Gobaith am ailagor gorsaf drenau Carno ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yng Ngharno ym Mhowys yn dweud eu bod nhw'n ffyddiog eu bod gam yn nes at ailagor hen orsaf drenau dros hanner can mlynedd ers ei chau.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gwmni Arriva Cymru a Network Rail ddatrys unrhyw broblemau allai rwystro Carno rhag ailymuno â'r rhwydwaith rhwng Amwythig ac Aberystwyth.
Yn ôl yr ymgyrchwyr, fe allai hynny arwain at drenau'n stopio yno bob dwy awr.
Does dim trên wedi bod yng ngorsaf Carno ers 1962 pan gafodd ei chau o dan gynllun Dr Beeching a rhaid i deithwyr o'r pentre yrru i Gaersws, chwe milltir i ffwrdd, i ddal y trên i Amwythig neu Aberystwyth.
Ymgyrch
Un sy'n mawr obeithio gweld y lle'n ailagor ydy Clem Richards, aelod o'r grŵp ymgyrchu ac un oedd yn teithio oddi yma i weld tîm pêl-droed Wolverhampton am flynyddoedd.
Mae ganddo gof plentyn o'r orsaf ar waith a dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mercher: "Pan oedden ni'n blant oedden ni'n dod i fynny i fan hyn ar ryw drolley bach - roedd y tren yn sefyll 'ma adeg hynny.
"Dod a llaeth o Drenewydd adeg hynny - roedd na halts all the way i lawr i Drenewydd. Doedden ni ddim hanner y boblogaeth bryd hynny ag ydyn ni heddiw.
"Maen nhw wedi adeiladu tai wrth ochr y steshon fan hyn a pobl mewn oed sydd yn byw yna - a dwi'n siwr bydde hanner nhw ddim ishe dreifio tase nhw'n dewis, a mynd ar y traen bydde nhw, i Aberystwyth neu Shrewsbury neu lle bynnag."
Ffatri
Roedd 'na ddymuniad yn wreiddiol i agor gorsaf newydd ar gyrion y pentre ond bellach mae'r ymgyrchwyr yn ffafrio agor yr hen un gyfochrog â rhai o adeiladau ffatri Laura Ashley gynt.
Y bwriad ydy creu caffi ac amgueddfa i Laura Ashley yno hefyd ac mae'r teulu Ashley'n cefnogi'r syniad.
Mae'r pwysau ar gwmni Trenau Arriva Cymru a Network Rail i wneud asesiad technegol o'r syniad i ailagor gorsaf Carno.
Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart wedi gofyn iddyn nhw gwblhau'r gwaith erbyn mis Chwefror.
Prif bryder y cwmnïau ydy y gallai stop ychwanegol effeithio ar berffomiad a phrydlondeb y gwasanaeth.
Ond mae'r grŵp ymgyrchu yn pryderu y gallai ymadawiad Ms Hart adeg etholiad y Cynulliad ym mis Mai effeithio'n fawr ar y cynllun.
Dywedodd Bernard Evans, aelod arall o'r grŵp wrth y Post Cyntaf: "Dwi'n gobeithio bo ni nawr ar ben y daith, ond lle mae nawr, mae Edwina Hart yn gorffen eto, beth sy'n mynd i ddigwydd wedyn?
"Fydde ni'n ail-gychwyn eto? Nawr beth sy'n mynd mlaen yw da ni'n mynd yn ôl drwy'r un hen beth o hyd - 'we've got to do this, we've got to do that'. I fi, y pen draw ydi 'let's have it open'".
Mae disgwyl i boblogaeth y pentref gynyddu dros y blynyddoedd nesa, gyda chynlluniau i godi tai ar safle hen waith Laura Ashley.
Y cwestiwn mae llawer yn ei ofyn yn yr ardal ydi a fydd llawer mwy o aros i'r orsaf ailagor i'w gwasanaethu nhw a'r gymuned yn ehangach?