Kenwyne Jones yn gadael Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae ymosodwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Kenwyne Jones, wedi ymuno ar fenthyg gyda chlwb Al Jazira yn Abu Dhabi yn y Dwyrain Canol hyd at ddiwedd haf 2016.
Dywedodd y dyn 31 oed o Trinidad a Tobago ei fod yn dymuno pob lwc i Gaerdydd yn eu hymgyrch yn y bencampwriaeth y tymor hwn.
"Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle 'mod i wedi gweithio gyda thîm gwych yng Nghaerdydd a chwarae o flaen rhai o'r cefnogwyr mwyaf brwd yng Nghymru.
"Fe wnes i'r penderfyniad hwn ar sail y cyfleoedd oedd wedi eu cynnig i mi. Hoffwn i ddweud diolch wrth staff a chwaraewyr yr Adar Gleision ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.
"Hoffwn ddiolch yn enwedig i gefnogwyr anhygoel yr Adar Gleision. Mae wedi bod yn bleser pur a ni wna i eu hanghofio."