Cwest Jasmine: 'Panig' wrth iddi dagu
- Cyhoeddwyd

Mae tad wedi dweud wrth gwest ei fod yn teimlo nad oedd staff meddygol yn rheoli'r sefyllfa wrth i'w ferch chwech oed dagu ar rawnwin ym Mhen Llŷn.
Roedd Jasmine Lapsley o Lerpwl ar wyliau gyda'i theulu ym Morfa Nefyn, Gwynedd, pan ddechreuodd gael trafferth anadlu ym mis Awst 19, 2014.
Dywedodd ei thad, Robert Lapsley, wrth y cwest yng Nghaernarfon fod staff yr ambiwlans mewn "panig" pan gyrhaeddon nhw i geisio helpu.
Yn ôl Robert a Kathleen Lapsley, ni wnaeth aelod o'r staff meddygol gymryd rheolaeth ar y sefyllfa.
Bu farw Jasmine yn ddiweddarach yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, wedi iddi gyrraedd yn hofrennydd yr Awyrlu.
'Dim esboniad'
Yn y gwrandawiad yng Nghaernarfon, dywedodd Mrs Lapsey nad oedd "neb wedi esbonio unrhyw beth" am ofal ei merch.
Ar y cychwyn, meddai, doedd dim "gwybodaeth ba mor hir y byddai'r ambiwlans yn ei gymryd i gyrraedd."
Ychydig funudau wedi i'r ambiwlans gyrraedd cafodd Jasmine ei rhoi ar yr hofrennydd.
Dywedodd hi nad oedd unrhyw un wedi esbonio iddi hi a'i gŵr beth oedd yn digwydd.
Fe ddywedodd Mrs Lapsley nad oedden nhw'n gwybod i ble'r oedd yr hofrennydd yn mynd ac nad oedd lle yn yr hofrennydd iddyn nhw.
Clywodd y cwest nad oedd y cwpl wedi cael cyfle i alw perthnasau cyn i'r periant cynnal bywyd yn Ysbyty Gwynedd gael ei ddiffodd.
Dywedodd Mrs Lapsley nad oedd hi'n teimlo ei bod "yn rhan o unrhyw agwedd ar ofal" ei merch.
Roedden nhw wedi gyrru o'r ysbyty i'r tŷ, meddai, ar ôl i'w merch farw - cyn mynd adref i Lerpwl.
Pan ofynnodd y crwner i Mr Lapsley a gynigiodd yr heddlu help iddyn nhw yrru adref, dywedodd: "Gawson ni ddim cynnig cymorth gan unrhyw un mewn rôl swyddogol."
Mae'r cwest yn parhau.