Ffordd ar gau wedi gwrthdrawiad ger Y Fenni
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 22:48 nos Fawrth yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd y B4269 rhwng Llanellen a Llanfoist ger Y Fenni.
Mae'r ffordd yn cael ei hadnabod yn lleol fel Lôn y Sipsi.
Fe gredir fod pedwar llanc 17 oed wedi cael eu hanafu, a'u bod yn dal i gael triniaeth ar gyfer eu hanafiadau ar hyn o bryd.
Mae'r B4269 yn parhau i fod ynghau ar hyn o bryd, ac mae swyddogion yr heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i ffonio Heddlu Gwent ar 101.