Cameron: S4C 'yn rhan bwysig o'r strwythur darlledu'
- Cyhoeddwyd

Yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog mae David Cameron wedi dweud bod "S4C yn rhan bwysig iawn o'n strwythur darlledu, yn boblogaidd iawn ac yn cael ei gwerthfawrogi yng Nghymru".
Dywedodd ei fod am sicrhau bod ei blaid yn cadw eu gair ar "eiriad ac ysbryd y maniffesto" er mwyn i S4C barhau i fod yn "sianel gref".
Yn oriau mân bore Mercher roedd Aelodau Seneddol yn trafod dyfodol ariannol S4C.
AS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Simon Hart, ofynnodd y cwestiwn i'r Prif Weinidog.
Yn groes
Ar ôl y ddadl dywedodd AS Aberconwy, Guto Bebb, wrth BBC Cymru fod penderfyniad y llywodraeth i dorri'n ôl ar gyllideb y sianel yn mynd yn groes i faniffesto'r blaid.
"Mae hwn yn gam diangen ac yn un rwyf yn ei wrthwynebu ... mae S4C eisoes wedi cymryd camau i arbed arian, ac mae'n annheg i ofyn iddyn nhw wneud mwy o arbedion.
"Er bod y drafodaeth wedi digwydd am ddau o'r gloch y bore, roedd nifer dda o aelodau trawsbleidiol ac roedd 'na ymdeimlad cryf o gefnogaeth i'r sianel gan y rhan fwya' ohonyn nhw."
Galwodd Mr Bebb eto am adolygiad annibynnol a dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'r llywodraeth yn newid eu meddyliau.
"Dyw hi ddim y tro cyntaf i'r llywodraeth wneud tro pedol ... yn ddiweddar, fe aethon nhw'n ôl ar eu gair ynglŷn â'u polisi credyd treth. Felly efallai y byddwn yn gweld hynny eto."
Mae pryder fod Llywodraeth Prydain yn mynd i leihau'r grant mae'n ei roi i'r sianel, o £6.7m i £5m erbyn 2020.
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Os yw geiriau'r Prif Weinidog yn ddiffuant, dylen ni glywed cyhoeddiad yn fuan sy'n dad-wneud y toriadau i gyllideb S4C.
"Fel arall, geiriau gwag ydyn nhw."
'Calonogol a siomedig'
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: "Cefais fy nghalonogi o weld bod cymaint o Aelodau Seneddol wedi ymgasglu ar awr annuwiol, ac yn falch o weld cynifer ohonyn nhw mor gefnogol i'r sianel.
"Byddwn hefyd yn galw eto am adolygiad annibynnol fyddai'n cael rhywfaint o effaith ar unrhyw doriadau yn y dyfodol.
"Ar y llaw arall, roeddwn yn siomedig nad oedd y gweinidog, Ed Vaizey, wedi cyfeirio at y toriadau pellach rydym yn eu hwynebu yn y dyfodol oherwydd adolygiad i Siarter y BBC."
Mae Mr Vaizey wedi dweud bod y llywodraeth yn cydymdeimlo â'r syniad o adolygiad annibynnol ond ni chadarnhaodd y byddai hyn yn digwydd.