Difrod sylweddol i ganolfan chwarae yn Wrecsam wedi tân

  • Cyhoeddwyd
The Ventures

Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn cynnal ymchwiliad ar y cyd ar ôl tân difrifol mewn cynllun chwarae cymunedol yn Wrecsam fore Mercher.

Cafodd dau griw tân eu galw i The Venture ar Heol Garner, Parc Caia am 03:30.

Mae'r ganolfan yn safle sylweddol o ran maint, gyda strwythurau chwarae pren a swyddfeydd, mae'r gwasanaeth tân ac achub yn dweud fod y difrod yn helaeth.

Bu'r diffoddwyr tân yn defnyddio pedwar peiriant dŵr i daclo'r tân, sy'n dal i fudlosgi.

Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi bod yn bresennol yn y digwyddiad.

Cafodd canolfan The Venture ei sefydlu gyntaf yn 1978 mewn ymateb i lefelau uchel o droseddu ymysg ieuenctid ar yr ystâd.

Yn ddiweddar, mae stad Parc Caia wedi wynebu cyfres o ddigwyddiadau yn ymwneud gyda thanau bwriadol.

Ffynhonnell y llun, Google