Marwolaeth mab: Teulu o'r Barri yn cael gweld adroddiad
- Cyhoeddwyd

Bu farw Conner Marshall yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r ymosodiad
Mae teulu dyn o'r Barri gafodd ei lofruddio gan ddyn oedd dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf, wedi cael gweld yr adroddiad llawn i'r ffordd gafodd ei lofrudd ei fonitro.
Daw yn dilyn ymgyrch gan Nadine Marshall o'r Barri - mam Conner Marshall, 18 oed, gafodd ei guro i farwolaeth gan David Braddon mewn parc carafannau ym Mhorthcawl y llynedd.
Cafodd Braddon, 26 oed o Gaerffili, ei garcharu am oes am ei lofruddiaeth.
Mae'r Weinyddiaeth Cyfiawnder wedi cadarnhau bod yr 'Adolygiad Trosedd Difrifol Pellach' wedi ei rannu gyda theulu Conner ddydd Mawrth.
Yn gynharach y diwrnod hwnnw, fe wnaeth Ms Marshall siarad â BBC Cymru am ei hymgyrch i gael copi o'r adroddiad llawn.
Straeon perthnasol
- 5 Ionawr 2016