Gwrthdrawiad marwol: Arestio bachgen 17 oed
- Published
image copyrightWales News Service
Mae bachgen 17 oed wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili ble cafodd dau berson ifanc arall eu lladd.
Bu farw Connor Williams, 17 oed, a Conor Tiley, 18 - y ddau o ardal Aberbargoed - ddydd Sul.
Bu'r car oedden nhw'n teithio ynddo mewn gwrthdrawiad ar Heol Newydd, Tir-y-Berth, Hengoed, ychydig cyn 19:30.
Dywedodd Heddlu Gwent bod y bachgen wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, a bod yr ymchwiliad yn parhau.
Roedd y ddau fu farw a Cameron Nicholas, 18 oed - sy'n parhau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol - yn teithio mewn car Ford Fiesta porffor.
Bu'r car mewn gwrthdrawiad â char Vauxhall Astra arian. Ni chafodd y ddynes oedd yn gyrru'r Vauxhall ei hanafu'n ddifrifol.
image copyrightMatthew Horwood/Wales News Service
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Ionawr 2016