Rhybudd llifogydd mewn grym gyda glaw trwm ar y ffordd

  • Cyhoeddwyd
LlifogyddFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Fe allai glaw trwm achosi mwy o lifogydd ar draws canolbarth a de Cymru, meddai'r Swyddfa Dywydd.

Mae rhybudd melyn 'byddwch yn ymwybodol' mewn grym gyda disgwyl band trwm o law o gyfeiriad y gorllewin brynhawn dydd Mercher.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai gwyntoedd cryfion hefyd yn cael effaith, yn enwedig ar hyd yr arfordir.

Ond mae disgwyl i'r tywydd wella erbyn bore Iau.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy a Thorfaen.

Daw wedi i gwmni yswiriant NFU Mutual ddweud y gall cost hawliadau yn dilyn llifogydd yng Nghymru godi mor uchel â £2.5m.

Cymru welodd y lefel uchaf o law ar draws y DU ym mis Rhagfyr, er bod rhannau o ogledd Lloegr wedi gweld llifogydd difrifol hefyd.