Corff Llansawel: Cyhoeddi enw dyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 46 oed gafodd ei ddarganfod yn farw Llansawel, Castell-nedd, ddydd Mercher.
Roedd Kevin Barry Mahoney yn 46 oed ac yn byw'n lleol.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ddydd Mercher ond nid yw achos y farwolaeth wedi ei gadarnhau eto.
Dywed yr heddlu fod ei deulu'n derbyn cymorth arbenigol gan heddweision ar hyn o bryd.
Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae dyn 44 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio. Mae'n parhau yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn Abertawe.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Heol Thomas yn Llansawel am 09:45 ddydd Mercher ar ôl i'r corff gael ei ddarganfod ar lwybr tu ôl i'r stryd.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Hurley o Heddlu De Cymru: "Mae'n hymchwiliad yn parhau ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am Kevin Mahoney i gysylltu gyda ni.
"Rydym am glywed gan unrhyw un oedd wedi gweld Kevin Mahoney yn ystod y dyddiau cyn ei farwolaeth ac sydd gyda gwybodaeth am ble y mae wedi bod, beth oedd yn wisgo, a phwy sy'n gysylltiedig ag o.
"Fe allai'r wybodaeth fod yn hanfodol i'r tîm ymchwilio wrth i ni edrych ar yr amgylchiadau arweiniodd at ddarganfod y corff fore dydd Mercher."
Hoffai'r heddlu gael gwybodaeth gan unrhyw un oedd wedi gweld neu glywed unrhyw beth amheus yn neu o amgylch ardal Heol Thomas yn Llansawel ddydd Mawrth neu ddydd Mercher.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 neu 0800 555 111 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 1600005773.