Cwest: Negeseuon brys dirdynnol
- Cyhoeddwyd

Cafodd recordiadau sain dirdynnol gan bobl yn erfyn am ambiwlans i achub merch chwech oed, oedd wedi tagu ar rawnwin, eu chwarae mewn cwest i'w marwolaeth.
Roedd y ferch, Jasmine Lapsley o Lerpwl, ar wyliau gyda'i theulu ym Morfa Nefyn, Gwynedd, pan ddechreuodd gael trafferth anadlu ym mis Awst 19, 2014.
Mewn un alwad 999 roedd modd clywed yn y cefndir lais y fam Kathleen Lapsley yn ceisio cynnig sicrwydd i Jasmine.
Wyth cilometr
Mewn galwad arall roedd modd clywed aelod o'r gwasanaeth ambiwlans yn dweud: "Rydym yn dod cyn gynted â phosib atoch chi".
Ymysg y galwadau ffôn a radio gafodd eu chwarae yn y cwest yng Nghaernarfon, dywedodd y gweithredydd fod criw ambiwlans wyth cilometr i ffwrdd o'r ferch ar un adeg.
Yn gynharach, dywedodd heddwas wrth y cwest sut y cafodd ei adael gyda'i wraig ar eu pennau eu hunain i geisio achub Jasmine - tra oedden nhw 'n aros am dimau meddygol i gyrraedd.
Roedd y Cwnstabl Aled Hughes yn ymweld â chymdogion yn y tŷ drws nesaf i'r tŷ haf lle oedd teulu Jasmine yn aros, ac fe neidiodd dros wal i helpu gyda'r driniaeth CPR i'r ferch yn yr ardd.
'Ddim yn anadlu'
Dywedodd Mr Hughes wrth y cwest yng Nghaernarfon fod Jasmine yn "llonydd" pan ddechreuodd roi triniaeth iddi. "Roedd ei gwefusau'n las," meddai. "Doedd hi ddim yn anadlu. Roedd hi'n llipa."
Ychwanegodd nad oedd "unrhyw arwydd o fywyd".
Roedd ei wraig, Awen, sydd yn hyfforddwraig cymorth cyntaf, hefyd yno yn rhoi cymorth, a rhwng y ddau fe roddwyd "dwsinau" o gylchoedd triniaeth CPR i Jasmine.
Dywedodd Mr Hughes ei fod wedi rhoi triniaeth CPR iddi am 10 i 15 munud ac "roedd yn teimlo fel amser hir".
"Roeddwn yn bryderus iawn," ychwanegodd.
'Yn orffwyll'
Disgrifiodd ddynion tân yn cyrraedd yr ardd, gan ddweud bod un ohonyn nhw'n "orffwyll," yn gofyn "lle mae'r ambiwlans, lle mae'r ambiwlans?". Erbyn hynny roedd 20 munud wedi mynd heibio, meddai.
Dywedodd Mr Hughes nad oedd yn cofio clywed gan neb pa mor bell i ffwrdd oedd cymorth meddygol.
Pan gyrhaeddoddd yr ambiwlans, roedd yn cofio ei fod o a'i wraig a'r parafeddygon yng nghefn y cerbyd. "Fe wnaethon nhw aros yn yr ambiwlans am bump i 10 munud da," meddai.
Dywedodd wrth y crwner: "Roedd yn teimlo fel amser hir."
Disgrifiodd Mr Hughes sut y cafodd Jasmine ei chario i ambiwlans awyr cyn cael ei chludo i'r ysbyty.
Pan ofynnwyd iddo sut yr oedd yn teimlo wrth feddwl am y diwrnod hwnnw, dywedodd: "Roeddwn i ag Awen mewn sefyllfa na ddylai neb fod ynddi."
Ychwanegodd eu bod wedi cael eu gadael ar eu pennau eu hunain i ymdopi pan oedden nhw wirioneddol angen cymorth proffesiynol.
Mae'r cwest yn parhau.