Datblygu arweinwyr perianyddol y dyfodol gyda chynllun £14m
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun, sy'n ceisio datblygu'r genhedlaeth nesaf o "arweinwyr rhagorol" y maes peirianyddol yng Nghymru, yn cael ei lansio ddydd Iau.
Oherwydd y prosiect £14m bydd bron i 150 o bobl yn cael hyfforddiant mewn sgiliau technegol arbenigol a rheoli sy'n "allweddol" i'r sector peirianneg.
Bydd yr hyfforddiant ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'r cynllun wedi derbyn £8.6m o arian Ewropeaidd.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, y byddai'r cynllun yn "arweinwyr yn y diwydiant".
'Sector pwysig iawn'
Bydd 149 o fyfyrwyr llawn amser a phobl sydd wedi'u cyflogi yn y sector yn cymryd rhan yn y rhaglen ac yn anelu at raddau meistr ymchwil a doethuriaethau peirianneg.
Mae nifer o fusnesau, gan gynnwys Tata Steel, BASF, y Bathdy Brenhinol a Weartech International yn cydweithio, gan gynnig prosiectau ymchwil.
Bydd y cynllun yn defnyddio campws Prifysgol Abertawe, Campws y Bae, agorodd ym mis Medi.
Dywedodd y gweinidog: "Mae peirianneg uwch yn sector pwysig iawn yn ein heconomi, felly mae'n newyddion ardderchog bod dros £8m o gronfeydd yr UE yn cael ei fuddsoddi i sicrhau bod gan Gymru arweinwyr rhagorol yn y diwydiant yn awr ac yn y dyfodol."