Eileen Beasley a Merv the Swerve ymysg cofiannau newydd

Mervyn 'Merv the Swerve' Davies, Eileen Beasley ac Emlyn Hooson
Image caption Mervyn 'Merv the Swerve' Davies, Eileen Beasley ac Emlyn Hooson

Mae ymgyrchwyr iaith, cyn chwaraewr rygbi a gwleidydd ymysg 222 o bobl sydd wedi eu cynnwys mewn casgliad o gofiannau o bobl wnaeth argraff ar fywyd y wlad.

Mae Eileen Beasley a'i gŵr Trefor, Mervyn 'Merv the Swerve' Davies ac Emlyn Hooson wedi eu cynnwys yn y rhifyn diweddaraf o'r Oxford Dictionary of National Biography.

Hefyd wedi ei chynnwys mae'r artist Evelyn Williams symudodd i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae'r rhifyn diweddaraf yn gofnod o bobl wnaeth argraff ar fywyd Prydeinig a fu farw yn 2012.

Image caption Roedd yr wythwr Merv the Swerve yn adnabyddus am ei fwstas a'r band gwyn am ei ben

Cafodd yr athrawes ac ymgyrchydd iaith, Eileen Beasley ei magu yn Sir Gaerfyrddin cyn ymuno â Phlaid Cymru yn y brifysgol.

Gyda'i gŵr Trefor yn y 1950au, fe wnaeth y ddau wrthod talu biliau treth nad oedd yn y Gymraeg, tan 1960 pan gytunodd cyngor yn Llanelli i yrru biliau dwyieithog.

Cafodd eu hymgyrch ei gefnogi gan Saunders Lewis yn ei araith Tynged yr Iaith yn 1962.

Cafodd Mervyn Davies 38 o gapiau dros Gymru ac aeth ar deithiau gyda'r Llewod yn 1971 a 1974.

Ond daeth ei yrfa i ben yn 1976 pan gafodd waedu ar ei ymennydd wrth chwarae i Abertawe yng Nghwpan Cymru.

Image caption Cafodd ymgyrch Eileen a Trefor Beasley ei gefnogi fel esiampl o weithredu di-drais gan Saunders Lewis

Fe wnaeth Emlyn Hooson hyfforddi fel bargyfreithiwr ac roedd ei achosion amlwg yn cynnwys achos Ian Brady, llofrudd y Moors, yn 1966.

Cafodd ei ethol hefyd yn AS i Sir Drefaldwyn ac roedd yn gefnogwr o ddatganoli yn y 1970au.

Yn wreiddiol o Lundain, roedd Evelyn Williams yn faciwi i ogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'n debyg bod ei hamser yn ardal Dinbych wedi dylanwadu ar ei gwaith, ac mae esiamplau ohono yn cael ei gadw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Erbyn hyn mae 59,879 o bobl wedi eu cynnwys yn y casgliad.