Morgan yn ymuno â'r Gleision
- Cyhoeddwyd

Matthew Morgan made two appearances for Wales at the 2015 World Cup
Fe fydd yr olwr rhyngwladol Matthew Morgan yn ymuno â'r Gleision ar ddiwedd y tymor.
Ym mis Rhagfyr fe wnaeth y chwaraewr 23 oed gyhoeddi ei fwriad i adael Bryste pan mae ei gytundeb presennol yn dod i ben ym mis Mai.
Dywedodd Morgan ei fod am ddychwelyd i Gymru er mwyn ychwanegu at ei pum cap rhyngwladol.
Fe wnaeth o ddechrau i Gymru yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd.
"Rwy'n falch fy mod yn ymuno â'r Gleision," meddai Morgan.
"Rwyf angen datblygu fy sgiliau a pharau i bwyso am le yn nhîm Cymru, mae hynny'n uchelgais rwy'n anelu a gweithio ato bob dydd."
Fe wnaeth Morgan adael y Gweilch i ymuno â Bryste ym Mai 2014.