George Osborne yn cyhoeddi £50m i ganolfan arloesi newydd

  • Cyhoeddwyd
Canghellor
Disgrifiad o’r llun,
George Osborne ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae'r Canghellor George Osborne wedi addo £50m ar gyfer canolfan arloesi newydd yng Nghymru. Y bwriad fydd gweld arweinwyr busnes, peirianwyr ac arbenigwyr yn dod at ei gilydd i ganolbwyntio ar ddatblygu dargludyddion trydan.

Byddai Llywodraeth San Steffan yn buddsoddi £10m y flwyddyn i'r cynllun 'Catapult' tan 2020. Does dim lleoliad wedi ei gadarnhau ar gyfer y cynllun hyd yma.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn ystod ymweliad y Canghellor George Osborne a Chaerdydd.

Cytundeb dinesig

Defnyddiodd yr ymweliad i ddweud ei fod am weld 'cytundeb dinesig' gwerth £1.3bn ar gyfer datblygiad economaidd yn ne-ddwyrain Cymru yn cael ei arwyddo cyn ei gyllideb nesaf ar 16 Mawrth.

Mewn araith i arweinwyr busnes yn y ddinas, dywedodd y canghellor y bydd y cynllun dan sylw yn rhoi'r un math o hwb a'r hyn ddigwyddodd yn y 90au gydag adfywiad ardal Bae Caerdydd.

"Mae hwn yn gytundeb fydd yn sicrhau dyfodol disglair i Gaerdydd," meddai.

"Fe fyddwn yn cefnogi cronfa is-adleiladwaith ar gyfer rhanbarth Caerdydd fel rhan o'r datblygiad."

'Nôl ym mis Tachwedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud y byddan nhw'n cyfrannu tua £580m at y cynllun, gan alw ar y Trysorlys i wneud yr un cyfraniad.

Roedd cais y cytundeb dinesig wedi ei gefnogi gan 10 o gynghorau sir yn y de-ddwyrain, gan addo y byddan nhw'n gwario £120m ar y cynllun.

Disgrifiad o’r llun,
Map posib o'r cynllun Metro

Cynllun Metro

Gyda'r Trysorlys a Llywodraeth Cymru nawr yn gaddo £580m yr un, mae cyfanswm o £1.3bn ar gael.

Dydd Iau yng Nghaerdydd, dywedodd Mr Osborne: "Mae hyn yn dangos ein huchelgais ar gyfer rhanbarth Caerdydd, ac rwyf am weld y cytundeb yn cael ei arwyddo erbyn y gyllideb ym mis Mawrth.

"Felly mae'n rhaid i bawb fwrw 'mlaen."

Does dim prosiectau penodol wedi cael eu henwi hyd yma, ond mae nifer yn disgwyl i ran o'r arian gael ei wario ar wella gwasanaethau bws a threnau'r ardal fel rhan o gynllun Metro.

Ymateb Llywodraeth

Wrth ymateb i gyhoeddiad y canghellor, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi dangos yn barod beth allwn ei gynnig i'r cytundeb dinesig gan ymrwymo dros £500m tuag at wella isadeiledd o fewn yr ardal, sydd yn elfen bwysig er mwyn hybu cydweithredu rhanbarthol a thwf economaidd.

"Mae llywodraeth y DU wedi ymateb i'n cais i ddarparu arian cyfatebol ar gyfer ariannu cronfa isadeiledd fel rhan o'r cytundeb. Rydym yn aros i weld y manylion am eu hunion gyfraniad ac fe fyddwn yn parhau i weithio gyda'r awdurdodau yn Ardal Ddinesig Caerdydd er mwyn sicrhau bod y weledigaeth yn dod yn wir."

'Cytundebau tebyg'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ei bod yn croesawu cyhoeddiad Mr Osborne, ond dywedodd y dylai "gyhoeddi ei fod yn fodlon gwrando ar gais ar gyfer cytundeb tebyg i ardal ddinesig Abertawe a 'chytundeb gwledig' ar gyfer y gorllewin er mwyn sicrhau bod llewyrch yn cael ei rannu ledled Cymru".

Yn ystod ei ymweliad fe wnaeth y canghellor hefyd rybuddio yn erbyn bod yn hunanfodlon ynglŷn ag economi'r DU.

Dywedodd mai'r risg mwyaf i'r economi yw ymlacio a "chymryd yr agwedd bod y gwaith wedi'i wneud".

Fe wnaeth ailadrodd ei alwad am fwy o doriadau, gan rybuddio y gall gwelliannau i'r economi ers y dirwasgiad gael eu colli.

Ffynhonnell y llun, Getty Images