Ap Uber yn cael trwydded i weithredu yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
UberFfynhonnell y llun, PA

Mae ap bwcio tacsis Uber wedi derbyn trwydded i weithredu yng Nghaerdydd, yn ôl y cwmni.

Dywedodd llefarydd nad oes gan y cwmni ddyddiad lansio hyd yn hyn am ei bod yn ddibynnol ar recriwtio gyrwyr.

Ond dyw un undeb ddim yn hapus am y datblygiad, gan ddweud bod Uber yn gweithredu ar "ymylon yr hyn sy'n cael ei ganiatáu yn gyfreithiol".

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd gadarnhau bod trwydded wedi'i ganiatáu.

Mewn datganiad, dywedodd Uber ei fod yn edrych ymlaen at gynnig "dewis diogel, dibynadwy a fforddiadwy i bobl Caerdydd".

Ond dywedodd Steve Garelick, llefarydd cangen gyrwyr proffesiynol undeb GMB, y gall yr ap orfodi tacsis cyffredin i gynnig prisiau is, gan ei gwneud yn anodd i yrwyr ennill bywoliaeth.