Gyrrwr yn cyfaddef achosi marwolaeth bachgen 12 oed

  • Cyhoeddwyd
Hamid Ali Khan
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Hamid Ali Khan ei daro gan gar Audi S3 gwyn ar Heol Parc Ninian

Mae gyrrwr wedi cyfaddef achosi marwolaeth bachgen 12 oed drwy yrru'n beryglus.

Fe wnaeth Calvin Markall, 26 oed, daro Hamid Ali Khan wrth iddo geisio croesi cyffordd yn ardal Glan yr Afon o Gaerdydd ym mis Chwefror y llynedd.

Cafodd y disgybl yn Ysgol Uwchradd Fitzalan ei daro gan gar Audi S3 gwyn, Markall, ar Heol Parc Ninian.

Fe wnaeth Markall, o Dredelerch, bledio'n euog yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau.