Nid yw hon ar fap

Dydw i ddim wedi mynd yn ôl trwy fy hen lyfrau nodiadau cyn dweud hyn ond ryw'n weddol o sicr y gallwn i gyfri'r nifer o weithiau wnaeth Margret Thatcher ymweld â Chymru yn ystod ei chyfnod fel Prif Weinidog ar fysedd fy nwylo. Roedd hi'n annerch cynhadledd Gymreig y Torïaid bob yn ail flwyddyn ac yn ymweld unwaith, ac unwaith yn unig, yn ystod pob ymgyrch etholiad. Efallai bod 'na un neu ddau ymweliad arall wedi bod ond dim llawer.

Peidiwch â'm camddeall, doedd 'na ddim llawer o bobol yng Nghymru oedd yn dymuno gweld y ddynes ddur yma'n amlach. Yn wir roedd rhai hyd yn oed yn cario cerdyn "Thatchcard" yn eu waledi yn datgan "In the event of an accident, the holder of this card wishes it to be known that he/she does not wish to be visited by Mrs. Thatcher under any circumstances whatsoevever."

Roedd Tony Blair yr un mor gyndyn i ymweld â'r gornel fach hon o'i deyrnas er bod ei phobol yn ffyddlon iawn i'w blaid. Efallai bod yr achlysur hwnnw bryd wnaeth Rhodri Morgan gyflwyno par o focsyr shorts a'r Ddraig Goch arnynt i'w arweinydd wedi gadael craith!

Nid pwynt ynghylch Mrs Thatcher na Mr Blair sydd gen i yn fan hyn ond mae'r ffaith bod dau Brif Weinidog mor hirhoedlog wedi treulio cyn lleied o amser yng Nghymru yn fodd i'n hatgoffa ynghylch pa mor ymylol yw Cymru i wleidyddiaeth Prydain y rhan fwyaf o'r amser.

Ar y mwyaf gellir dweud ein bod yn 'dipyn o boendod i'r rhai sy'n credu mewn trefn' ac os am brawf o hynny does ond angen nodi faint o sylw mae'r Cynulliad yn derbyn gan y wasg Brydeinig, sef nemor ddim.

Mae 2016 yn wahanol. Am unwaith mae gwleidyddiaeth Cymru ac, yn fwyaf arbennig, etholiad y Cynulliad â'r potensial i effeithio'n sylweddol ar yr ymgiprys gwleidyddol yn San Steffan. Dyna pam y mae pobl fel George Osborne a Nigel Farage mor barod i ymddangos ar lwyfannau Cymreig y dyddiau hyn a gallwn ddisgwyl llawer mwy o ymweliadau gan fawrion y pleidiau dros y misoedd nesaf.

Mae'r rhesymau am bwysigrwydd Cymru yn ddigon hawdd eu dirnad. I Lafur, Cymru yw ei throedle bach olaf o safbwynt llywodraethu, un sydd yn rhaid eu hamddiffyn. I'r Ceidwadwyr mae 2016 yn gyfle i fwrw hoelen arall yn arch eu gwrthwynebwyr traddodiadol. Mae Ukip wedi eu cyffroi gan y syniad o ennill cynrychiolaeth gref yn un o seneddau'r Deyrnas am y tro cyntaf tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i brofi bod 'na rhyw faint o wynt yn y #LibDemFighback!

Mewn un ystyr mae'n dda o beth bod Cymru'n cael sylw am unwaith ond mae 'na ffordd arall o edrych ar bethau fel mae Daniel Evans o Brifysgol Caerdydd yn gwneud mewn erthygl ar wefan yr LSE.

Mae Daniel yn gwneud y pwynt bod mewnfudo o Loegr a newidiadau demograffig eraill yn golygu bod yr agweddau unigryw oedd yn nodweddu gwleidyddiaeth Cymru yn diflannu. Dyma ei brif gasgliad.

"Ultimately, the conditions are perfect for Wales to be completely absorbed into the British mainstream. The local political and cultural dynamics which used to inoculate Wales from the dominant narratives emanating from England are locked into an inexorable spiral of decline."

Mae 'na sylwedd i ddadl Daniel ond rwy'n anghytuno ynghylch un peth. Dyw'r 'British mainstream' y mae Daniel yn cyfeirio ato ddim yn bodoli bellach. Mae'r Albanwyr, fel etholwyr Gogledd Iwerddon, bellach yn troi yn eu byd bach gwleidyddol eu hun. Cael ei thynnu i mewn i wleidyddiaeth Lloegr mae Cymru.

Mae 'na eironi enfawr yn hynny. Fel yn achos datgysylltu'r Eglwys ganrif yn ôl, mae'r rhesymau y gwnaeth bobol frwydro gyhyd dros ymreolaeth yn dechrau diflannu unwaith mae'r frwydr wedi ei hennill!