Deiseb am atal gweddi cyn cyfarfod
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch ar-lein yn galw am gael gwared ar arfer cynghorwyr Sir Gaerfyrddin o weddïo cyn cyfarfodydd llawn o'r cyngor.
Yn ôl Jackie Thompson, sy tu cefn i'r ddeiseb, dyw gweddïau unrhyw grefydd "ddim yn addas yng nghyd-destun sefydliad democrataidd seciwlar."
Mae hi o'r farn y dylai unrhyw weddi fod ar wahân i gyfarfod ffurfiol.
Yn ôl y cyngor, mae'r cyfarfod gweddi yn para tua hanner munud a rhai sydd ddim am gymryd rhan yn aros y tu allan.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, cadeirydd y cyngor, wrth raglen Taro'r Post BBC Cymru fod y weddi yn draddodiad sy'n perthyn i'r sir a bod y cynghorwyr yn "dilyn y traddodiad hwnnw."
'Neb wedi achwyn'
Y cadeirydd sy'n gweddïo a dywedodd fod hynny'n para tua hanner munud.
"Does neb wedi achwyn ers i mi fod ar y cyngor," meddai.
"Dwi'n tybio fod yna un person yn aros tu fas tan fod y weddi wedi bod ac yna yn cerdded i mewn.
"Does neb yn colli dim byd a dwi'n meddwl bod hynny yn gwbl deg i bawb."
Fe wnaeth 12 o gynghorau Cymru ddweud wrth Taro'r Post eu bod yn cynnal gweddi cyn cyfarfod tra bod 10 ddim yn gwneud hyn.