Yr Eisteddfod yn ymddiheuro i Gwilym Owen
- Cyhoeddwyd

Mae'r newyddiadurwr a'r colofnydd Gwilym Owen wedi derbyn ymddiheuriad gan yr Eisteddfod Genedlaethol am ran o lythyr a ysgrifenwyd amdano yng nghylchgrawn Golwg cyn y Nadolig.
Roedd Mr Owen wedi bygwth ymddiswyddo o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol o achos rhai o sylwadau Llywydd Llys yr Eisteddfod, Garry Nicholas, mewn llythyr oedd wedi cyhuddo'r newyddiadurwr o "guddio" tu ôl i'w golofn yn y cylchgrawn, yn hytrach na beirniadu sefydliad fel yr Eisteddfod "wyneb yn wyneb".
Wrth drafod y llythyr oedd wedi ei "siomi" a'i "synu", dywedodd Gwilym Owen wrth BBC Cymru Fyw: "Ym mharagraff olaf y llythyr yng nghylchgrawn Golwg roedd y cyfeiriad at fy oed yn enghraifft o 'ageism' go iawn. Roedd na awgrym wedyn fy mod yn 'cuddio' dan gochl fy ngholofn yn Golwg. Dydw i erioed wedi cuddio tu ôl i fy ngholofn yn Golwg ac mae popeth wedi ei gyhoeddi mewn print ag o dan fy enw fy hun."
Dywed yr Eisteddfod wrth Cymru Fyw eu bod wedi ymateb i sylwadau Mr Owen yn ei golofn ddydd Iau, gan ddweud wrth gylchgrawn Golwg mai "bwriad y llythyr oedd cywiro camgymeriadau ffeithiol yng ngholofn Gwilym Owen...Os yw'r geiriau yn ein llythyr wedi peri gofid i Mr Owen, yna, rydym yn ymddiheuro am hyn."
Yng ngholofn Gwilym Owen ddydd Iau, gafodd ei chyhoeddi cyn derbyn yr ymddiheuriad, dywedodd Gwilym Owen fod y llythyr oedd wedi ymddangos yn y cylchgrawn yn "gatalog o honiadau milain am fy ngwendidau a'm brad fel aelod o Lys y Brifwyl", a bod y paragraff olaf yn "nawddoglyd hunangyfiawn at fy henaint a'm harfer dieflig o guddio tu ôl i'm colofn yn Golwg".
Ychwanegodd Mr Owen yn ei golofn: "Rhaid i mi felly gyhoeddi fy mod yn dileu f'aelodaeth o Lys yr Eisteddfod rhag blaen ac er byddai colli f'aelodaeth er anrhydedd o Orsedd y Beirdd yn peri loes imi - os yw hynny yn gorfod digwydd yna bydded felly!"
Cwestiynau
Roedd Mr Owen wedi codi nifer o gwestiynau am Lys yr Eisteddfod mewn colofn flaenorol, ac ymateb i'r golofn honno yr oedd Garry Nicholas yn ei lythyr yn Golwg. Yn sgîl y llythyr hwnnw, yn ei golofn ei hun ddydd Iau, roedd Gwilym Owen yn bygwth torri pob cysylltiad gyda'r brifwyl.
Ond yn dilyn derbyn ymddiheuriad gan yr Eisteddfod yn ddiweddarach, dywed Mr Owen wrth BBC Cymru Fyw fod y ffrae wedi dod i ben a ni fydd bellach yn gweithredu i dorri cysylltiad â'r Eisteddfod.
Dywedodd Mr Owen: "Mae'r Eisteddfod wedi bod yn ddigon grasol neu gall i ddod o'r tempar yr oedden nhw ynddo fo ac ymddiheuro. Doeddwn i ddim yn disgwyl iddyn nhw ymddiheuro ac maen nhw'n amlwg wedi cymryd cyngor ac ymddiheuro.
"Mi fyddai'n parhau i ysgrifennu a dweud fy marn fel unigolyn a newyddiadurwr yn gyhoeddus. Fy swydd fel newyddiadurwr yw tynnu sylw at sefydliadau Cymreig sy'n derbyn arian cyhoeddus."
Cysylltodd Cymru Fyw â'r Eisteddfod ac fe ddywedodd llefarydd ar ran y brifwyl fod yr Eisteddfod "wedi ymateb i'r hyn oedd yng ngholofn Gwilym Owen yn Golwg yr wythnos hon."