Curtis i reoli Abertawe hyd at ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Alan CurtisFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau y bydd eu rheolwr dros dro, Alan Curtis yn parhau yn y swydd hyd at ddiwedd y tymor pêl-droed presenol.

Fe afaelodd Curtis yn yr awenau yn dilyn ymadawiad Garry Monk fel rheolwr y clwb ar 11 Rhagfyr, ac ers hynny mae Curtis wedi sicrhau pum pwynt i'r Elyrch wedi cyfnod anodd i'r clwb yn yr Uwch Gynghrair.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb bod llwyddiant Alan Curtis dros y pum gêm ddiwethaf wedi darbwyllo'r cadeirydd, Huw Jenkins, a Bwrdd y Cyfarwyddwyr, i ymestyn cyfnod Curtis wrth y llyw hyd at ddiwedd pumed tymor y clwb yn yr Uwch Gynghrair.

Dywedodd Huw Jenkins: "Bydd Alan Curtis a'r drefn staffio bresenol yn parhau hyd at ddiwedd y tymor. Rydym yn credu'n gryf mai dyma'r penderfyniad cywir i Abertawe.

"Mae Alan wedi bod gyda ni drwy'r cyfnodau da a drwg ac roedd yn rhan o'r tîm rheoli oedd yn gyfrifol am sicrhau statws y clwb yn y Gynghrair Bêl-droed dros 12 mlynedd yn ôl.

"Mae'n llwyr ymwybodol mai'r swydd bwysig nesaf sydd ganddo o'i flaen yw i dyrchu'n ddyfn a dod o hyd i'r lefelau angenrheidiol o berfformiadau i sicrhau ein statws yn yr Uwch Gynghrair - dyma ein prif nod y tymor hwn."