Saith Diwrnod
- Cyhoeddwyd

Catrin Beard sy'n trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru.
Os ydych chi wedi gweld eisiau blog Vaughan Roderick, mae'n cynnig esboniad am ei dawelwch diweddar yng nghofnod cyntaf y flwyddyn.
Un o oblygiadau cynnal dau etholiad pwysig o fewn blwyddyn i'w gilydd, yw nad oes fawr o ddewis gan newyddiadurwyr gwleidyddol ond cymryd talp o wyliau dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd.
Unwaith mae'r ffenest fach yna wedi ei chau - pennau lawr amdani ac ymlaen a ni ffwl pelt tan fis Mai.
Ydi, mae am fod yn dipyn o farathon dros y misoedd nesaf, a'r geiriau cyntaf sy'n dod i feddwl Vaughan yw "och, gwae ni!"
Medraf lunio restr faith, dywed, o resymau i esbonio pam y dylai pob un o'r pleidiau, ac eithrio Ukip, efallai, ddisgwyl gwneud yn wael yn etholiad 2016 - a dwinne'n edrych mlaen at ddarllen y rhesymau hynny yn eu tro dros yr wythnosau nesaf.
Yn y cyfamser, yn Golwg, mae Gareth Hughes yn ceisio dyfalu canlyniad etholiad y Cynulliad.
Ond dywed fod canlyniadau etholiadau Cymru braidd yn ddiflas gan nad oes fawr o amheuaeth pa blaid fydd yn llywodraethu - yr unig gwestiwn o bwys yw ai ar ei phen ei hun neu gyda thipyn bach o help gan blaid arall y bydd peiriant etholiadol mwyaf llwyddiannus yn hanes modern Cymru, y Blaid Lafur, yn arwain y wlad.
Ond gyda phedwar mis i fynd, yn ddigon doeth, dyw'r sylwebydd gwleidyddol hwn ddim am ateb ei gwestiwn ei hun.
Y 'Jyngl' yw'r gwersyll ffoaduriaid ger Calais ble mae oddeutu 6,000 o bobl yn byw.
Teithiodd tair merch o Wynedd yno ddechrau mis Rhagfyr gyda llond fan o nwyddau i'r ffoaduriaid. Seran Dolma sy'n rhannu ei phrofiad ar flog Golwg 360
Roedd hi'n brysur yno pan gyrhaeddodd y tair, dynion blinedig a'u hwynebau dwys yn edrych arnyn nhw, a'r merched yn teimlo'n hunanymwybodol.
Profiad dryslyd, ond mae'n anhygoel yn ôl Seran mor hyblyg ydym ni fel pobl. O fewn awr, dywed, roeddem ni wedi addasu i'r realiti newydd, ac yn brysur yn sychu llestri yn y gegin, gan sgwrsio efo cyfrifydd Cwrdaidd am chwaraewyr pêl droed o Gymru.
Mae'r jyngl yn lle od. Mae yno lyfrgell, theatr, eglwys, ysgolion, clinig, canolfan therapi celf, hyd yn oed glybiau nos, ac i Seran, mae hyn yn arwydd o ymroddiad y gwirfoddolwyr a chryfder ysbryd y ffoaduriaid mewn amgylchiadau anodd.
Mae tri diwrnod yn jyst digon i ddechrau cael rhyw fath o ddealltwriaeth o'r sefyllfa ac er nad yw hi'n twyllo ei hun bod ei phresenoldeb wedi gwneud gwahaniaeth mawr i neb, mae'n ddigon hir i ddechrau teimlo ymrwymiad personol efo'r sefyllfa, gwylltio, a phenderfynu bod rhaid gwneud mwy.
Darlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd yw Siân Morgan Lloyd.
Y munud mae'n larwm ffôn yn sgrechian yn y bore, dywed ar Cymru Fyw, mae'r byd ar flaen fy mysedd.
Mae gen i gryn ddewis o apps, ac o fewn pum munud fydda' i wedi sganio prif benawdau'r bore.
Rydyn ni'n byw mewn oes lle mae'n haws nag erioed i ddilyn y newyddion.
Ond os ydw i'n dibynnu ar Facebook a Twitter am fy 'ffics', ydw i'n gadael i'r rhai 'dw i wedi dewis eu dilyn neu fod yn ffrindiau i osod yr agenda newyddion?
Mae Siân yn derbyn bod arferion y cyhoedd wedi newid a dyw hi ddim yn rhagweld byd lle mae pobl yn dychwelyd i ddarllen papurau dyddiol, na gwylio teledu fel yr oedden nhw ers talwm.
Ond - ac mae hwnnw yn OND mawr - dywed bod gwir angen gwarchod newyddiaduraeth safonol, heriol a gwreiddiol yng Nghymru.
Mae gwasg gref, hyderus, a graenus yn hanfodol ar gyfer unrhyw ddemocratiaeth iach ac mae yna risg gwirioneddol o golli'n llais ynghanol yr holl sŵn.
Clywch clywch.