Cyflwynydd Radio Cymru wedi cael damwain sgïo yn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
tudur owen
Disgrifiad o’r llun,
Mae Tudur Owen yn cyflwyno dwy raglen wythnosol ar BBC Radio Cymru

Mae un o gyflwynwyr Radio Cymru, Tudur Owen, wedi bod mewn damwain tra'n sgïo yn Ffrainc.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Mae Tudur Owen wedi syrthio wrth sgïo ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Radio Cymru cyn bo hir. Ry' ni'n dymuno gwellhad buan iddo."

Dywedodd ei ffrind a'i gyd-gyflwynydd, Dyl Mei, ar BBC Radio Cymru ddydd Gwener fod Tudur yn "gwella ar hyn o bryd wedi iddo gael codwm tra'n sgïo yn Ffrainc".

Mae BBC Cymru Fyw ar ddeall bod y diddanwr wedi derbyn anafiadau i'w asennau, ei ysgwydd a'i ysgyfaint.

Mae Tudur Owen yn cyflwyno dwy raglen wythnosol ar BBC Radio Cymru, ar brynhawniau Gwener a Sadwrn.

Yn ei absenoldeb, mae'r cyflwynydd Gerallt Pennant wedi camu i'r adwy i gyflwyno'r rhaglen.