Cyngor i beidio yfed gormod ar unwaith

  • Cyhoeddwyd
yfedFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae pobl sy'n yfed alcohol yn cael eu cynghori gan swyddogion iechyd i wasgaru'r unedau o alcohol y maent yn ei yfed drwy'r wythnos.

Mae Prif swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey, wedi ymuno â'i chydweithwyr ar draws y DU i ddiweddaru'r canllawiau sy'n 20 oed.

Un argymhelliad yw i beidio "arbed" yr 14 uned o alcohol wythnosol i'w yfed mewn un neu ddau ddiwrnod.

Hefyd mae'r farn y gall un neu ddau wydraid o win coch amddiffyn y corff rhag clefyd y galon yn "llai pwysig" na'r gred flaenorol.

Mae'r newidiadau nawr yn rhan o ymgynghoriad ledled y DU tan fis Ebrill.

Mae'r canllawiau yn awgrymu:

  • Un canllaw ar gyfer dynion a merched: 14 uned yr wythnos - tua chwe pheint o gwr neu saith gwydraid bach o win.
  • Dylai'r unedau gael eu lledaenu dros dri diwrnod neu fwy.
  • Nid oes unrhyw lefel o alcohol yn "ddiogel" i'w yfed yn ystod beichiogrwydd. Dywedodd Dr Hussey y llynedd ei bod yn well i ferched beichiog beidio ag yfed alcohol yn gyfan gwbl.

Mae'r ymgyrchwyr ymwybyddiaeth alcohol, Change4Life Cymru, eisoes yn annog pobl i gael o leiaf dau ddiwrnod di-alcohol yr wythnos.

Dywedodd Dr Hussey eu bod yn "defnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf ar sut mae gwahanol lefelau o alcohol yn effeithio ar risgiau iechyd ar gyfer unigolion".

Yn gynharach yr wythnos hon, fe lansiodd llywodraeth Cymru strategaeth tair blynedd i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau ac alcohol, gan gynnwys "ymddygiad yfed peryglus" ymysg y boblogaeth dan 24 oed a phobl hŷn.

Mae derbyniadau i'r ysbytai yng Nghymru ar gyfer pobl dros 50 oed sydd â phroblemau alcohol wedi cynyddu am y drydedd flwyddyn yn olynol.