Dyn yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth tad a babi

  • Cyhoeddwyd
Kyle KennedyFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Kyle Kennedy

Mae dyn 29 oed wedi ymddangos gerbron Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o achosi marwolaeth tad a babi drwy yrru'n beryglus.

Mae Kyle Kennedy o ardal Grangetown, Caerdydd hefyd yn wynebu cyhuddiad o gymryd car heb ganiatâd, gyrru tra ei fod wedi ei wahardd, a gyrru heb yswiriant.

Bu farw Simon Lewis, 33 oed, o Trowbridge, Caerdydd ar Nos Galan, pan fu ei gar Daihatsu Sirion mewn gwrthdrawiad gyda Peugeot 307 ar Ffordd Lamby yn y brifddinas.

Roedd ei wraig feichiog, Amanda a'i ferch Summer hefyd yn y car.

Fe gafodd y babi ei eni'n gynnar ar ôl llawdriniaeth Cesaraidd ar 3 Ionawr, a bu farw ar yr un diwrnod.

Ni wnaeth Mr Kennedy gyflwyno ple, a chafodd ei gadw yn y ddalfa.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Simon Lewis o ganlyniad i'r ddamwain ar Nos Galan